Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n wir i ddweud bod y prosiect o Landdewi Felffre i Benblewin yn hollbwysig. Yn ail, wrth gwrs, mae fe’n bosibl i’r ddêl dinas—y ‘city deal’—ystyried prosiectau newydd i helpu trafnidiaeth. Mae’n bosibl i ystyried hynny. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, wrth gymryd y ‘franchise’ drosodd y flwyddyn nesaf, byddai’n bwysig dros ben i sicrhau bod y gwasanaeth rheilffyrdd hefyd yn gwella yn sir Benfro, ac, wrth gwrs, i gysylltu sir Benfro â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig.