1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Caerdydd ynghylch y ddarpariaeth gorsaf fysiau newydd yn y ddinas? OAQ(5)0538(FM)
Wel, mae hwn yn fater, yn y pen draw, i gyngor Caerdydd, nid i Lywodraeth Cymru, ond cefais gyfarfod gydag arweinydd cyngor Caerdydd ar ddechrau'r mis ac un o'r pynciau a drafodwyd gennym oedd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad gorsaf fysiau Caerdydd canolog.
Diolch. Ie, rwy’n deall mai mater i'r cyngor yw hwn yn bennaf, ond mae'r orsaf fysiau yn fater sy'n peri pryder cynyddol i drigolion de Cymru yn gyffredinol. Bu pryderon ers cryn amser y gallai’r cyfleuster newydd fod yn rhy fach a cheir pryderon nawr am y cyllid hefyd; ceir y mater bach hefyd nad ydym yn gwybod eto a fydd cilfannau i goetsys yn yr orsaf—nid yw dim o hyn yn helpu gyda nod datganedig Llywodraeth Cymru o annog trafnidiaeth integredig. Gan fod Caerdydd canolog yn ganolbwynt mor bwysig i’r rhanbarth cyfan, a all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw ymyrraeth yn hyn o beth i sicrhau bod teithwyr yn cael cyfleuster o'r radd flaenaf yn y pen draw, yn hytrach na llanast?
Bu adeg pan oedd cyngor Caerdydd, rai blynyddoedd yn ôl, yn amau a oedd angen cael gorsaf fysiau o gwbl: 'Fe wnaiff yr arosfannau bws y tro' Rwy'n falch nad dyna’r achos. Mae'n hynod bwysig cael cyfnewidfa a chanolbwynt. Mae’r angen i adeiladu gorsaf newydd yn amlwg i mi. Rydym ni’n gwybod bod angen i'r cynllun fod yn addas i’w ddiben, mae angen iddo fod yn barod ar gyfer y dyfodol, mae angen iddo gael ei integreiddio'n llwyddiannus, er mwyn bod yn addas ar gyfer ein prifddinas. Mae'r prosiect ei hun yn cael ei arwain gan Rightacres. Maen nhw’n cynnal cyfarfodydd misol gyda rhanddeiliaid allweddol—mae hynny’n ein cynnwys ni fel Llywodraeth. Rwy’n deall mai’r diweddaraf yw bod y cais cynllunio wedi ei gymeradwyo, ond bod y dyddiad cychwyn wedi ei ohirio wrth i drafodaethau gael eu cynnal ar sut y dylai'r orsaf edrych. Mae'n bwysig, wrth gwrs, y ceir cytundeb y dylai'r orsaf fod yn addas i’w diben fel y brif gyfnewidfa i’n prifddinas.