1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
8. Yn dilyn tanio Erthygl 50, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu marchnad sengl i'r DU? OAQ(5)0537(FM)
Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'llawer'. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau eisoes. Byddwn yn parhau i gynnal y trafodaethau hynny a bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi amlinellu'r hyn yr wyf yn ei gredu y bydd ei angen i barhau gyda marchnad sengl fewnol o fewn y Deyrnas Unedig ei hun: sef y ceir system sy'n seiliedig ar reolau, yn ail, bod y rheolau hynny’n cael eu cytuno gan bob un o’r pedair Llywodraeth, ac, yn drydydd, bod dyfarnwr annibynnol—llys masnach, os mynnwch—a fydd yn plismona'r rheolau hynny. Os caiff yr holl ofynion hynny eu bodloni, yna rwy’n credu y gall y farchnad sengl fod yn gadarn.
Diolch. Mae pobl eraill eisoes wedi cyfeirio at adroddiad Demos a gyhoeddwyd ddoe a awgrymodd—fel yr ydym ni’n gwybod eisoes—y bydd effaith gadael yr UE yn fwy sylweddol ar Gymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweld o weithredoedd diweddar Theresa May fod y Torïaid yn blaid o addewidion a dorrwyd. Mae David Davis, y Gweinidog Brexit, wedi dweud ei fod eisiau gweld yr un manteision yn union â’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r farchnad sengl a’r undeb tollau yn cael eu cadw ar ôl i ni adael yr UE. Pa mor realistig y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu yw hynny yn wyneb y ffaith bod Prif Weinidog Malta wedi dweud, o reidrwydd, bod angen i’n perthynas fod yn israddol i'r un yr ydym ni’n ei fwynhau ar hyn o bryd?
Wel, mae'n bosibl ei wneud trwy, er enghraifft, aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi nad yw eisiau awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop ac nad yw eisiau talu i mewn i gronfa gyllideb, ond os ydych chi eisiau bod yn aelod o glwb, mae’n rhaid i chi dalu ffi aelodaeth, os caf ei roi felly. Ni allaf weld bod unrhyw fodel arall. Nid wyf yn credu y bydd y DU yn cael cynnig model sy'n unigryw i'r DU. Pam fyddai’r Undeb Ewropeaidd eisiau gwneud hynny? Felly, rwyf i wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i beidio â meddwl am Brexit caled na Brexit meddal ond am Brexit synhwyrol. Nid wyf yn credu bod mwyafrif o bobl yn y wlad hon sydd eisiau gweld Brexit sydd mor galed y bydd tariffau yn cael eu gorfodi, y bydd cyfyngiadau diangen o ran symud i mewn ac allan o'r DU, ac y bydd ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Do, cafwyd pleidlais y llynedd ac mae pobl eisiau gadael. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw beth oedden nhw’n ei gredu y byddai'r telerau. Dyna'r anhawster. Ond yn fy marn i, mae'n gwbl bosibl gadael yr UE ac eto parhau i fod â mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl.