Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Mawrth 2017.
Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw 'llawer'. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau eisoes. Byddwn yn parhau i gynnal y trafodaethau hynny a bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi amlinellu'r hyn yr wyf yn ei gredu y bydd ei angen i barhau gyda marchnad sengl fewnol o fewn y Deyrnas Unedig ei hun: sef y ceir system sy'n seiliedig ar reolau, yn ail, bod y rheolau hynny’n cael eu cytuno gan bob un o’r pedair Llywodraeth, ac, yn drydydd, bod dyfarnwr annibynnol—llys masnach, os mynnwch—a fydd yn plismona'r rheolau hynny. Os caiff yr holl ofynion hynny eu bodloni, yna rwy’n credu y gall y farchnad sengl fod yn gadarn.