Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch. Mae pobl eraill eisoes wedi cyfeirio at adroddiad Demos a gyhoeddwyd ddoe a awgrymodd—fel yr ydym ni’n gwybod eisoes—y bydd effaith gadael yr UE yn fwy sylweddol ar Gymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweld o weithredoedd diweddar Theresa May fod y Torïaid yn blaid o addewidion a dorrwyd. Mae David Davis, y Gweinidog Brexit, wedi dweud ei fod eisiau gweld yr un manteision yn union â’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r farchnad sengl a’r undeb tollau yn cael eu cadw ar ôl i ni adael yr UE. Pa mor realistig y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu yw hynny yn wyneb y ffaith bod Prif Weinidog Malta wedi dweud, o reidrwydd, bod angen i’n perthynas fod yn israddol i'r un yr ydym ni’n ei fwynhau ar hyn o bryd?