1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhaglenni mentoriaeth menywod yn gadarnhaol yn y gweithle? OAQ(5)0530(FM)
Rydym ni’n darparu grant craidd i Chwarae Teg i sicrhau bod y cyfraniad y mae menywod yn ei wneud i’r economi mor fawr â phosibl ac i gefnogi'r weledigaeth o Gymru lle mae menywod yn llwyddo ac yn ffynnu.
Brif Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cofio gydag anwyldeb dwfn y Fonesig Rosemary Butler, ein cyn-Lywydd, ac roedd ei rhaglen hi i hyrwyddo menywod mewn bywyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar gynlluniau mentora. Rwy'n credu bod hon yn egwyddor y gellid ei chymhwyso yn gyffredinol, oherwydd mae’n codi disgwyliad ac uchelgais menywod sydd eisoes yn meddu ar y doniau i berfformio'n rhagorol yn y gweithle.
Rwy'n credu bod hynny’n hollol wir. Mae Chwarae Teg yn rhan o'r cynllun hwnnw. Mae ganddo gynllun strategol tair blynedd i hyrwyddo cydraddoldeb. Ceir arfau eraill sydd ar gael i ni hefyd. Er enghraifft, comisiynwyd ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' gan y prif gynghorydd gwyddonol, gyda'r nod o gael data cyfredol a syniadau cyfredol ar ymdrin â'r problemau hirdymor o niferoedd annigonol o fenywod yn astudio gwyddoniaeth ac yn cychwyn a ffynnu mewn gyrfaoedd gwyddoniaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog, Julie James, wedi derbyn yr argymhellion mewn datganiad yn ôl ym mis Ionawr. Dyna ddwy enghraifft, ymhlith llawer, o'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol yn ein cymdeithas.