10. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:16, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli eich bod yn fy ngalw i’n gyntaf. Diolch yn fawr iawn beth bynnag, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau efallai’n ei gofio, Mark Isherwood a oedd yn gwneud ei gyfraniad yr wythnos diwethaf. Nid Mark Isherwood ydw i, ac er ei fod wedi bod cystal â rhoi imi ei araith o’r wythnos diwethaf, rwyf wedi gwneud un neu ddau o newidiadau fel ei bod ychydig mwy fel fi nag ef heddiw. Felly, gwnaed unrhyw wallau gennyf i, iawn.

Yn bersonol, rwy’n gweld yr adroddiad hwn fel y cyntaf mewn cyfres yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhoi sail i weithredoedd Llywodraeth Cymru, ac yn craffu arnynt, wrth inni lywio dyfroedd eithaf tonnog Brexit. Unwaith eto, yn bersonol, rwy’n meddwl y byddai wedi bod yn well i Lywodraeth Cymru aros i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi cyn cyhoeddi ei Bapur Gwyn ei hun—dim ond mater o ychydig ddyddiau ydoedd—fel y gallai fod wedi cyfeirio dogfen wirioneddol drawsbleidiol yn ffurfio casgliadau trawsbleidiol, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn llawn. Rwy'n meddwl y byddai hynny wedi arfogi’r Prif Weinidog ychydig yn well, ac yn wir Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn y sgyrsiau agoriadol hynny â Llywodraeth y DU ynghylch ein sefyllfa negodi ar y cyd, yn hytrach na dogfen a luniwyd gan ddwy blaid yn unig.