10. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:18, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr, ond y Senedd yw hon mewn gwirionedd yn hytrach na’r Llywodraeth, a hoffwn i i’r Senedd hon fod ar flaen y gad, os mynnwch, i helpu i hysbysu’r Llywodraeth i gyrraedd safbwynt—[Torri ar draws.]—hysbysu’r Llywodraeth i gyrraedd safbwynt negodi. Rwy'n meddwl bod fy mhwynt yn ddigon teg, a dweud y gwir, oherwydd, wrth gwrs, er bod y Papur Gwyn yn galw am fynediad llawn a dilyffethair at farchnad sengl y DU, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hynny’n amhosibl ar ôl adfer rheoli ffiniau i'r DU, nid yw hynny'n anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am fargen masnach rydd heb aelodaeth. Er bod y Papur Gwyn yn nodi perygl y gallai Llywodraeth y DU gipio pŵer, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ei hun yn datgan ein bod

‘eisoes wedi addo na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu tynnu oddi arnynt’, a byddwn yn manteisio ar y cyfle i ddod â phenderfyniadau yn ôl yma i wneud yn siŵr bod mwy o benderfyniadau wedi'u datganoli. Felly, y rheswm pam yr wyf yn codi hyn yw oherwydd bod ysgyfarnogod eisoes yn rhedeg, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn canolbwyntio ar y risgiau a’r cyfleoedd clir a phresennol yn hytrach na'r rhai sy'n fwy annhebygol. Eisoes, mae’n ymddangos ein bod yn cwestiynu pa mor ddylanwadol yw’r cenhedloedd Celtaidd wrth baratoi sefyllfa negodi, a byddai'n hawdd, rwy'n credu, cynyddu’r rhethreg ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth ac yn dweud beth mewn ffordd nad yw'n helpu i greu hyder na chyfleu ymdeimlad o undod, y bydd ei angen i roi pwysau i safbwynt negodi.

Felly, yn bersonol nid wyf yn awyddus i dderbyn barn y Prif Weinidog am hyn, a dyna pam mae argymhellion 1 a 4 yn bwysig inni i gyd, oherwydd hoffwn inni weld dadansoddiad gwirioneddol o’r peryglon clir a phresennol hynny. Dewch inni gael gweld yr holl dystiolaeth i asesu cryfder safbwynt Llywodraeth Cymru i helpu lleisiau eraill i wneud yr achos ar ei rhan, gan gynnwys gwleidyddion, ond y tu hwnt hefyd. Y ddiplomyddiaeth feddal honno mewn perthnasoedd sydd ddim yn rhynglywodraethol—wyddoch chi, mae cyfres ohonynt, yn enwedig ag eiriolwyr eraill o fewn yr UE ac rwy’n meddwl os gwnewch ein helpu ni i’w helpu nhw, y bydd hynny’n cryfhau safbwynt negodi'r DU a lle llais Cymru o fewn hwnnw. Hoffwn weld y mathau hynny o wledydd yr UE yn helpu i adeiladu momentwm ar gyfer gwelededd blaenoriaethau Cymru ac felly mae'n aneglur i mi pam mai dim ond egwydor 1 y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn mewn egwyddor, h.y. ei bod yn cyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae ei safbwynt wedi’i seilio arni.

Nawr, yn yr un modd, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd amharodrwydd y Llywodraeth i dderbyn argymhelliad 4 yn llawn—sef darparu cofrestr o risgiau ar draws pob maes lle bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod, mewn gwirionedd, yn cyflwyno asesiad risg newydd ar ôl i erthygl 50 gael ei sbarduno. Am wn i, yr hyn y byddwn i wedi hoffi ei glywed yn yr ymateb yw beth hoffai Llywodraeth Cymru i’n pwyllgor ei wneud i'w helpu i ganfod risgiau sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, wrth gwrs, fel a ddaeth yn amlwg yn ein cynhadledd ni ddoe.

Fel y dywed yr adroddiad, gallai llawer o feysydd polisi elwa o ddull neu fframwaith cytunedig ar draws y DU: er enghraifft, polisïau amaethyddol a morol a'r amgylchedd, ac o bosibl—o bosibl—polisïau datblygu rhanbarthol i raddau hefyd. Mae pennaeth Ysgol y Gyfraith Birmingham wedi dweud wrth y pwyllgor bod y broses

'yn gyfle i feddwl am bethau mewn ffordd wahanol',

Ac, fel y dywedodd NFU Cymru yr wythnos hon:

'Er bod Brexit yn cyflwyno heriau sylweddol, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle hwn i lunio a datblygu fframwaith polisi amaethyddol sy'n cefnogi ffermio cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol ac yn darparu swyddi, twf a buddsoddiad i Gymru.'

Felly, yn olaf, i gyfeirio’n ôl at lle y dechreuais, beth bynnag yw fy safbwynt cychwynnol personol i am ddylanwad Cymru, rwy’n credu bod angen inni dderbyn bod y grŵp cynghori Ewropeaidd—mae’n eithaf rhyfedd pan fo 11 o'r 21 aelod yn gymdeithasau gwleidyddol ond dim ond un yn cynrychioli busnes, a byddwn yn ddiolchgar, wrth ystyried ble mae Cymru'n sefyll yn ei safbwynt negodi o hyn ymlaen, pe gallem ystyried lleisiau o bob sector. Nid dim ond mater o fasnach yw hyn; mae'n ymwneud â chydlyniad cymdeithasol a chymunedol hefyd. Diolch.