10. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:32, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am eu hadroddiad? Mae'n ganlyniad llawer iawn o waith caled, profiad a chasglu tystiolaeth helaeth. Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i roi tystiolaeth i'r pwyllgor, ac rwy’n gwybod bod y Prif Weinidog hefyd.

There are a number of challenges facing us at the moment, as the committee Chair, David Rees, said when he referred to the complexity of these issues and the fact that things are changing on a daily basis. We can see that just by looking at what’s changed between the publication of the report and our discussion today.

Rhwng drafftio’r adroddiad a'i gyhoeddi ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, ein Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru', ac mae'r wythnosau sydd wedi dilyn wedi bod yr un mor brysur: cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU; pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu Gadael) rai wythnosau yn ôl; datblygiadau yn yr Alban mewn perthynas ag ail refferendwm annibyniaeth; cadarnhau dyddiad ar gyfer rhoi erthygl 50 ar waith yfory; a Phapur Gwyn a addawyd ar y Bil diddymu mawr ddydd Iau yr wythnos hon. Mae cyflymder y newidiadau hyn yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn gallu cadw’n hyblyg ac yn gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd a heriau newydd wrth iddynt godi. Rydym yn sicr wedi ceisio gwneud hynny yn ystod yr hydref ac ar ddechrau’r flwyddyn hon, drwy gyfrannu’n adeiladol at gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion, a thrwy gyfres o gyfarfodydd dwyochrog a gynhaliwyd â Gweinidogion y DU. Ac mae rhai arwyddion, Dirprwy Lywydd, ein bod yn cael effaith wirioneddol ar ddatblygu safbwynt negodi’r DU. Rydym yn credu eu bod wedi symud tuag at ein safbwynt ni o ran ein galwad glir a chyson am fynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, ac o ran ein pwyslais ar bwysigrwydd trosglwyddiad llyfn.

Er hynny, mae meysydd sy'n parhau i fod yn destun pryder sylweddol. Yr wythnos diwethaf, cyfeiriodd Simon Thomas at y drafodaeth barhaus am ailwladoli. Cyfeiriodd Eluned Morgan y prynhawn yma at hynny fel dychwelyd pwerau i Gymru, ac er bod Suzy Davies wedi bod yn fwy optimistaidd ynglŷn â hyn, hoffwn roi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cofnod yn hollol glir eto y prynhawn yma. Nid yw’r pwerau sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru erioed wedi ein gadael. Rydym wedi dewis arfer y pwerau hynny drwy gyfranogi ar lefel Ewropeaidd. Pan nad yw’r lefel honno yno mwyach, bydd y pwerau’n dal i fod yma. Ac os yw Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud unrhyw beth yn wahanol, bydd rhaid iddi weithredu i gymryd y pwerau hynny oddi arnom, a byddai hynny'n gwbl annerbyniol.

Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor yn nodi cyfres o faterion sydd o bwysigrwydd mawr i Gymru, ac mae llawer o aliniad rhwng yr adroddiad a'r Papur Gwyn a rennir rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd hanfodol masnach, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, y môr a physgodfeydd, a chronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi Ewropeaidd yn benodol. Mae chwech o argymhellion yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru eu hystyried, ac ymatebodd y Prif Weinidog yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i'r pwyllgor ar 10 Mawrth.

Yr argymhelliad cyntaf oedd y dylem gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yn seiliedig arni. Ac rydym yn gwneud y rhan fwyaf o hynny yn y Papur Gwyn, lle mae atodiadau mawr, sy'n nodi'r sail dystiolaeth yr ydym wedi ei defnyddio ar gyfer dadansoddiadau sectoraidd, rhagolygon macro-economaidd a mudo o’r UE i Gymru. Rydym yn sicr wedi mynd yn llawer pellach na Llywodraeth y DU o ran cyhoeddi tystiolaeth, a byddwn yn parhau i gyhoeddi dadansoddiadau economaidd ac eraill yn y dyfodol. Yn syml, y rheswm pam yr ydym yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor yw bod rhywfaint o gyngor sy'n dod i’r Llywodraeth—cyngor cyfreithiol, cyngor breintiedig sy'n dod gan Lywodraethau eraill am ddarpariaethau y maent yn eu datblygu, ac yn y blaen—nad ydym yn gallu eu gwneud yn gyhoeddus. Ond o ran yr wybodaeth sydd gennym ac y gellir ei chyhoeddi, rydym yn awyddus iawn i’w hychwanegu at y ddadl, yn y modd a awgrymwyd gan Suzy Davies.

Mae argymhellion 2 a 3 yn cyfeirio at newidiadau gweinyddol i rôl y swyddfa ym Mrwsel a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Ac, yn hyn o beth, rwy’n meddwl y gallwn ddangos ein bod wedi ymateb yn gyflym i ganlyniad y refferendwm i sefydlu tîm pontio Ewropeaidd pwrpasol, sy'n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau strategol ac yn cydlynu gwaith ar draws y sefydliad. Mae’r tîm newydd hwnnw’n gweithio'n agos â'r tîm presennol yn ein swyddfa ym Mrwsel, sy'n ein helpu ni ar faterion pontio, yn ogystal â chynnal busnes parhaus yr UE.

Rwyf eisoes wedi cyfeirio at gyflymder newid pethau o ran Brexit, ac mae'n bwysig iawn inni allu parhau yn hyblyg fel sefydliad. Byddwn, felly, yn parhau i adolygu sut y defnyddir ein hadnoddau, gan gynnwys swyddogaeth y tîm ym Mrwsel, fel y gallwn gael y dylanwad mwyaf posibl a sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Ac, yn benodol, bydd angen inni ailasesu'r sefyllfa pan gawn fwy o eglurder am y rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn y trafodaethau sydd o'n blaenau, rhywbeth yr ydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â ni yn ei gylch ers wythnosau a misoedd lawer.

Argymhelliad 4—cofrestr o risgiau. Yr unig reswm pam yr ydym yn derbyn hyn mewn egwyddor yw oherwydd ein bod yn cynnal ymarfer asesu risg newydd, wrth inni symud at gam nesaf y gwaith, ar ôl sbarduno erthygl 50 a dechrau negodi â phartneriaid yn yr UE. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am risgiau a mesurau lliniaru cyn gynted â bod yr ymarfer hwn wedi’i gwblhau, yn unol â barn y pwyllgor. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n llywio rhywfaint o'r gwaith y bydd y pwyllgor yn dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Mae’r pumed argymhelliad yn yr adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau ac yn defnyddio cymaint â phosibl o gyllid yr UE. Wel, rydym wedi clywed nifer o gyfraniadau am hynny y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru yn llawer agosach at ben amheus y ddadl. Rydym yn dweud ei bod yn gwbl hanfodol bod y bobl hynny a wnaeth addewidion i bobl Cymru, y bu pobl yn pleidleisio arnynt yn y refferendwm, yn dangos inni y bydd y gwarantau yr oeddent yn eu cynnig yn cael eu cyflwyno, ac yn cael eu cyflwyno yn llawn. Ac rwyf wedi dweud fy mod yn cydnabod y camau a gymerodd Canghellor y Trysorlys i roi sicrwydd ynglŷn â chyllid hyd at 2020. Roedd y rheini’n warantau defnyddiol; maent wedi rhoi rhywfaint o hyder i'n partneriaid i ddefnyddio cyllid Ewropeaidd. Ond nawr mae angen iddynt symud y tu hwnt i hynny. O dan y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd, pe baem wedi parhau, byddai Cymru wedi parhau i elwa ar y rownd bresennol nid tan 2020, ond tan 2023.Mae cyfres o raglenni y byddem wedi gallu parhau i gymryd rhan ynddynt ymhell y tu hwnt i 2023. Dyna'r gwarantau sydd eu hangen arnom gan Lywodraeth y DU erbyn hyn, ac rwy'n ofni na fydd hi mor hawdd eu sicrhau ag y mae rhai Aelodau Cynulliad wedi dymuno ei awgrymu y prynhawn yma.

Mae argymhelliad 6 yn gofyn inni bwyso ar y DU i gael cyfraniad uniongyrchol mewn trafodaethau. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gwneud yn glir i Brif Weinidog a Gweinidogion eraill y DU ar sawl achlysur nawr bod yn rhaid inni chwarae rhan lawn. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig, lle’r ydym yn dweud yn blaen wrth Lywodraeth y DU, 'Mae'n rhaid inni fod wrth y bwrdd pan gynhelir y trafodaethau hynny, i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.’ Cyfeiriodd Simon Thomas yr wythnos diwethaf at y posibilrwydd o ddatblygu model Cyngor y Gweinidogion yn y dyfodol, ac rydym wedi rhoi’r syniadau hynny ar y bwrdd hefyd.

Dirprwy Lywydd, rydym yn dal i fod yn ymroddedig i ddod o hyd i dir cyffredin, ac i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartneriaid wrth inni nesáu at gam nesaf gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno erthygl 50 yfory, ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o waith gan y pwyllgor a gyda'r pwyllgor i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu ein dull ni o gael y canlyniad gorau posibl i Gymru.