10. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:44, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n ddrwg gen i nad yw'n deall yr agweddau economaidd a'r manteision y mae'n eu rhoi i ni, ond dyna ni—efallai mai dyna UKIP.

Tynnodd Mark Drakeford sylw at faterion y trafodaethau dwyochrog, ac mae pwysigrwydd llais Cymru yn y trafodaethau hynny yn hollbwysig. Dyna pam y gwnaethom ei godi, Ysgrifennydd y Cabinet, a dyna pam yr wyf yn falch iawn o glywed eich bod yn dal i gredu ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru wrth y bwrdd. Ac ydych, rydych yn iawn, mae heriau o'n blaenau, hyd at 2020 a thu hwnt i 2020, gan y bydd y rhaglenni yn parhau y tu hwnt i hynny. Rydym mewn sefyllfa lle mae’r pwnc hwn yn datblygu'n gyflym. Rydym nawr, yfory, yn mynd i gael cyhoeddiad, a dydd Iau byddwn yn cael cyhoeddiad arall ar rywbeth sy'n berthnasol i ni—Bil diddymu mawr, neu efallai sawl Bil diddymu mawr, pwy a ŵyr? Ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddilyn, a gallaf eich sicrhau y byddwn yn gwneud hynny.

Dirprwy Lywydd, wrth gau'r ddadl hon rwyf am ailddatgan y rhan bwysig y bydd y pwyllgor yn ei chwarae yn y broses adael wrth iddi ddechrau yn ffurfiol yfory. Drwy gydol y broses, ein nod yw datblygu a chynnal ymgysylltiad adeiladol â rhanddeiliaid yng Nghymru a'r cyhoedd. Dim ond ddoe y cawsom gynhadledd—o bosibl y gyntaf yng Nghymru, am Brexit—lle’r oeddem yn ceisio ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, a hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr yng Ngholeg Gwent ac Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni am eu presenoldeb a'u cyfraniad. Bydd ymrwymiadau o'r fath yn y dyfodol yn bwysig wrth inni gasglu rhagor o dystiolaeth a hefyd wrth inni gynnal dadl ehangach â phobl Cymru ar y materion yr ydym yn eu canfod. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall buddiannau Cymru a’u hamddiffyn yn ystod y broses ymadael a'r trefniadau a fydd yn dilyn hynny—ac rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi tynnu sylw, unwaith eto, at bwysigrwydd y cyfnod pontio y bydd ei angen, oherwydd rydym i gyd yn gwybod na fydd dwy flynedd yn ddigon. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, byddwn yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd ac yn anelu i gefnogi'r Cynulliad wrth iddo agosáu at dasgau deddfwriaethol sylweddol sy’n ei wynebu.

Mae'r adroddiad yr ydym wedi’i drafod yn gam arwyddocaol wrth i’r Cynulliad ystyried Brexit. Rwy'n edrych ymlaen at siarad am lawer o adroddiadau yn y dyfodol gan y pwyllgor, wrth iddo barhau i ddiogelu buddiannau Cymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd a pharatoi ar gyfer ein dyfodol y tu allan iddo.