<p>Grŵp 2: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth (Gwelliannau 38, 39, 33, 40, 41, 42)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:27, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd.  Rwy'n cydnabod y bydd trethdalwyr a busnesau eisiau sicrwydd ynghylch faint o dreth y byddant yn ei thalu dan y dreth trafodiadau tir cyn Ebrill 2018.  Fodd bynnag, fy marn i yw y byddai cynnwys cyfraddau a bandiau ar wyneb y Bil hwn, ar hyn o bryd, 12 mis o hyd cyn y bydd y dreth yn cael ei datganoli i Gymru, rwy’n credu, yn cynnig golwg a allai fod yn gamarweiniol o sicrwydd heb y sylwedd angenrheidiol.

Mae Mark Reckless yn credu bod y ddeddfwrfa rhywsut yn ildio ei huchelfraint i'r Weithrediaeth drwy beidio â rhoi cyfraddau a bandiau ysgrifenedig ar wyneb y Bil, ac rwy'n credu bod hynny'n camgymryd am ddau reswm. Yn gyntaf, byddai mynnu bod y ddeddfwrfa yn pennu cyfraddau a bandiau ar y pwynt hwn yn gwahodd yr Aelodau i wneud penderfyniad o'r fath yn absenoldeb y wybodaeth angenrheidiol i wneud y penderfyniad hwnnw mewn ffordd gytbwys. Yn ail, mae ei ddadl yn awgrymu bod penderfyniadau yn y dyfodol wedi cael eu hildio heb eu gwirio i'r Weithrediaeth. Mewn gwirionedd, yr hyn a fydd yn digwydd fydd cynnig gan y Llywodraeth, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn craffu ac yn penderfynu arno.

Nawr, Llywydd, perswadiwyd fi gan ddadleuon a wnaed yng Nghyfnod 2 i wneud ymrwymiad i gyhoeddi cyfraddau a bandiau arfaethedig Llywodraeth Cymru erbyn 1 Hydref 2017. Yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt—ac rwy’n derbyn yn llwyr y pwyntiau y mae Simon Thomas wedi’u gwneud ynghylch yr angen i ddyfeisio system wahanol ar gyfer gwahanol amgylchiadau yn y dyfodol, ond, yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt y flwyddyn hon, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiad y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ac yn cyhoeddi ein cyfraddau a’n bandiau arfaethedig erbyn 1 Hydref 2017. Yna gellir craffu ar y cynigion hyn mewn modd gaiff ei lywio gan yr holl wybodaeth arall a fydd yn rhan o'r broses o wneud y gyllideb. Mae amseru o'r fath hefyd yn caniatáu i unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i gyllideb hydref y Canghellor gael eu hadlewyrchu yn y rheoliadau a ddaw gerbron y Cynulliad hwn i'w hystyried gan y Cynulliad hwn a phenderfyniad y Cynulliad hwn. Mae hyn, rwy’n credu, yn darparu sicrwydd sy'n real ac yn ddibynadwy i randdeiliaid, ac yn sicrhau goruchwyliaeth gyfreithlon a chyfrifoldeb gwneud penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 30 i 42 yn enw Mark Reckless.

Mae gwelliant 33, a gyflwynwyd gan Nick Ramsay, yn cael yr effaith o drosglwyddo rheolaeth lawn dros y cyfraddau a bandiau i Lywodraeth y DU tan fis Ebrill 2019, heb unrhyw gyfle i Weinidogion Cymru gynnig unrhyw newidiadau neu i'r Cynulliad eu cymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Nawr, Llywydd, mae sicrhau pwerau cyllidol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi bod yn broses hirfaith, yn ymestyn yn ôl yn awr drwy gomisiwn, proses Dydd Gŵyl Dewi, Deddf Seneddol, Deddf y Pedwerydd Cynulliad i sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, negodi fframwaith cyllidol yn yr hydref, a'r Bil gerbron yr Aelodau'r prynhawn yma. Nid yw’n ymddangos i mi bod rhoi’r penderfyniad cyntaf y dylem ei gymryd mewn 800 mlynedd ar gyfraddau a bandiau trethi Cymru yn ôl i'r corff y mae’r cyfrifoldebau hynny newydd gael eu datganoli ohono yn ffordd o weithredu a fyddai'n cymeradwyo ei hun i lawer o Aelodau yma'r prynhawn yma. Ac mae'n rhaid i mi ofyn i Aelodau—