Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yng Ngham 2 o flaen y Pwyllgor Cyllid, cafwyd trafodaeth o welliant a gyflwynwyd gan Steffan Lewis a fyddai wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud sylwadau am y gyfradd dreth uwch. Rwy'n ddiolchgar am gyfleoedd dilynol i drafod y mater gyda'r Aelod, oherwydd nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda'r egwyddor gyffredinol bod angen i ni ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar effaith cyfraddau uwch ar gymunedau, ac y gallai’r effaith honno gynnwys trafodaeth am gyfraddau a bandiau. Ond fel y mae Nick Ramsay wedi dweud eisoes, mae awdurdodau lleol yn gallu mynegi eu barn ar unrhyw agwedd ar y Bil hwn ar unrhyw adeg o dan y ddeddfwriaeth llywodraeth leol bresennol. Nid oes angen i awdurdod lleol gael y pŵer yn y Bil hwn i wneud sylwadau; mae’r pŵer hwnnw ganddynt yn awr.
Mae nifer o anawsterau ymarferol gyda'r gwelliant yn ogystal, fel y’i cyflwynir y prynhawn yma, sy'n golygu na allaf ofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio drosto. Yn gyntaf, rwy'n cael fy nghynghori y gallai gwelliant sy'n datgan y caiff yr awdurdod lleol wneud sylwadau am gyfraddau a bandiau mewn gwirionedd fwrw amheuaeth ar p'un a all eraill wneud sylwadau o'r fath, neu a all awdurdod lleol wneud sylwadau am faterion eraill, megis gweithrediad y dreth yn fwy cyffredinol.
Yn ail, mae pryderon y byddai’r gwelliant hwn, i bob pwrpas, yn cyflwyno proses statudol y mae'n rhaid ei dilyn cyn bod y cyfraddau a bandiau yn cael eu hamrywio. Byddai hyn yn ddigynsail o ran treth y DU, ac yn tanseilio'r egwyddor y dylai penderfyniadau am gyfraddau a bandiau orwedd gyda'r Llywodraeth a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Llywydd, wedi dweud hynny i gyd, gadewch i mi danlinellu fy nghefnogaeth i'r bwriad sylfaenol y tu ôl i welliant 30. Er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r cyfle sydd ganddynt eisoes i fynegi barn ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu hardal, gan gynnwys trafodaeth ar gyfraddau a bandiau, ysgrifennaf at awdurdodau lleol yn dilyn etholiadau mis Mai eleni i dynnu eu sylw at yr ymrwymiad yr wyf wedi’i wneud heddiw i ymgysylltu â hwy ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r ymgysylltu hwnnw gael ei lywio’n briodol gan dystiolaeth. Pan fydd y dreth yn mynd yn fyw, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn cadw’r data perthnasol. Gallaf gadarnhau'r prynhawn yma y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dadansoddi data treth trafodiadau tir o ran y gyfradd uwch ar sail awdurdod lleol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith y cyfraddau uwch yn eu hardaloedd. Yn fwy eang, bydd y dystiolaeth hefyd yn cefnogi edrych yn ehangach ar effaith y cyfraddau uwch ar gymunedau, unwaith y bydd y dreth trafodiadau tir yn weithredol. Rwy'n bwriadu cyhoeddi fy nghynllun gwaith treth ar gyfer y 12 mis nesaf yn hwyr yn y gwanwyn, ochr yn ochr ag ysgrifennu at awdurdodau lleol, fel y gall y camau hyn ategu ei gilydd.
Llywydd, er nad wyf yn gallu cefnogi gwelliant 30, rwy’n gobeithio fy mod i wedi dweud digon ar y cofnod y prynhawn yma i ddangos bod hwn yn fater y gall awdurdodau lleol wneud sylwadau arno, y byddwn yn sicrhau bod eu gallu i wneud hynny yn cael ei dynnu yn weithredol i’w sylw, a bydd y gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw sylwadau o'r fath yn derbyn ymateb cytbwys gan y Llywodraeth.