<p>Grŵp 3: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth — Sylwadau gan Awdurdodau Lleol (Gwelliant 30)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:44, 28 Mawrth 2017

Diolch, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr ysbryd y tu ôl i’r gwelliant yma. Rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn ein bod ni’n bwriadu gwneud cymaint ag y gallwn ni yn nhermau amcanion polisi a’n pwerau ‘fiscal’ newydd. Ymddiheuriadau i’r Aelod dros Fynwy nad oeddwn i’n ddigon eglur yn fy sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n eithaf amlwg ynglŷn â’r bwriadau y tu ôl i’r gwelliant. Rydym yn ymwybodol iawn o’r amrywiadau a’r amgylchiadau gwahanol ar draws siroedd Cymru ac o fewn siroedd Cymru ynglŷn â thai band uwch a thai preswyl.

Gyda’r hyn y mae’r Ysgrifennydd wedi’i ddweud, yn gyntaf, rwy’n croesawu’n fawr iawn y ffaith y bydd e yn hysbysu yn ‘proactive’ awdurdodau lleol Cymru o’r ffaith bod y Llywodraeth yn agored i drafodaethau penodol ar y mater pwysig yma, sy’n bwysig iawn i Blaid Cymru. Yn ail, rwy’n meddwl bod yr addewid i sicrhau bod y cynllun gwaith ar drethiant gan Lywodraeth Cymru yn mynd i ystyried hyn o safbwynt polisi ac o fewn y cyd-destun ‘fiscal’ yn addewid pwysig iawn ac yn un rwy’n ei groesawu yn fawr iaw—a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y bydd gyda ni ddata go iawn yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ar effaith y dreth yma.

Felly, gyda chaniatâd y Cynulliad a’ch chaniatâd chi, Llywydd, hoffwn i dynnu yn ôl fy ngwelliant.