11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 28 Mawrth 2017.
Y grŵp nesaf, felly, yw grŵp 5, ac mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol sy’n ymwneud â chroesgyfeiriadau. Gwelliant 9 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Diolch, Llywydd. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o grwpiau o welliannau Llywodraeth technegol a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Mae gan bob un o’r rhain bwyslais ychydig yn wahanol, ac felly maent wedi cael eu gwahanu er hwylustod trafod, ond yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod i gyd yn fân a thechnegol. Ar y cyfan, maent yn welliannau angenrheidiol i'r Bil er mwyn gwella eglurder y drafftio. Er enghraifft, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn mynd i’r afael â chroesgyfeiriadau anghywir yn y Bil. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi codi o ganlyniad i'r newidiadau i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2, ac rydym yn awr yn cael y cyfle i sicrhau bod y croesgyfeiriadau hyn yn gywir. Gofynnaf i Aelodau eu cefnogi.
Nid oes siaradwyr ar gyfer y grŵp yma, ac nid oes, felly, angen i alw’r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i unrhyw ddadl. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd, felly, welliant 9.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 10.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 10.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 11.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 11.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 12.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 12.