Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 28 Mawrth 2017.
Llywydd, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn gwneud mân welliannau i'r drafftio presennol yn y Bil. Mae gwelliant 6 yn disodli'r gair 'paragraff' gydag 'isadran', ac mae gwelliant 13 yn dileu'r gair 'ond'. Mae gwelliannau 15 ac 16 yn gwneud mân welliannau drafftio i fersiwn Gymraeg y Bil yn unig, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n eu cefnogi'r prynhawn yma.