<p>Grŵp 7: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch — Dirprwyon (Gwelliannau 14, 21)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:54, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn grŵp 4, ychydig funudau yn ôl, trafodwyd cyfres o newidiadau i wella tegwch gweithrediad y cyfraddau tâl ychwanegol uwch, ac mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn dychwelyd at y thema honno. Yn fy llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar 15 Chwefror, nodais fy mwriad i gyflwyno newidiadau yn y grŵp hwn, sy'n ceisio sicrhau nad ystyrir bod annedd a gaffaelwyd ac a gedwir gan ddirprwy ar ran person ifanc dan oed sydd â diffyg galluedd meddyliol, yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005, wedi ei gaffael neu yn eiddo i rieni’r plentyn hwnnw.

Unwaith eto, cafodd yr anghysondeb hwn yn neddfwriaeth gyfredol treth dir y dreth stamp ei nodi drwy ymgysylltu gydag arbenigwyr technegol.  Amcan y grŵp hwn o welliannau, felly, yw gwneud y ddeddfwriaeth yn decach, a sicrhau nad yw pobl ifanc dan oed analluog a'u dirprwyon a benodir gan y llys o dan anfantais o ganlyniad i'r tâl ychwanegol Treth Trafodiadau tir.

Canlyniad gwelliant 14 yw wrth benderfynu a yw’r gyfradd uwch yn berthnasol i amgylchiadau lle mae buddiant plentyn analluog yn cael ei gaffael, ei ddal ar ymddiriedaeth, neu ei waredu gan ddirprwy sy'n gweithredu ar eu rhan, na fydd unrhyw log a ddelir gan rieni'r plentyn mewn eiddo ar wahân yn gysylltiedig.  Bydd y newid hwn yn gwneud y ddeddfwriaeth yn decach trwy sicrhau nad yw buddiant y plentyn mewn eiddo yn ddarostyngedig i'r tâl cyfraddau uwch.  Yn yr un modd, bydd unrhyw drafodiad gan rieni'r plentyn analluog yn yr amgylchiadau hyn yn cael eu hystyried yn annibynnol ar fuddiannau eiddo'r plentyn.

Mae gwelliant 21 yn cael yr un effaith â gwelliant 14, y gwahaniaeth yw y caiff ei gymhwyso mewn perthynas â buddiannau y tu allan i Gymru.  Llywydd, rhagwelir y bydd nifer fechan iawn o achosion lle fydd y rheolau hyn yn berthnasol, ac y bydd hyn yn cael effaith fach iawn ar refeniw.  Bydd y defnydd o'r rheolau hyn yn cael eu cadw dan adolygiad, ond rwy’n gobeithio er budd tegwch y byddant yn cael eu cefnogi gan y Cynulliad y prynhawn yma.