11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 28 Mawrth 2017.
Grŵp 8 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch ar gyfer eiddo a etifeddir. Gwelliant 17 yw’r prif welliant, a’r unig welliant yn y grŵp yma, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y gwelliant ac i siarad i’r gwelliant. Mark Drakeford.
Llywydd, fel yr ydych wedi dweud, mae'r grŵp hwn yn ymdrin â mater mewn perthynas ag eiddo a etifeddwyd. Mae gwelliant 17 yn darparu bod priod neu bartneriaid sifil nad ydynt bellach yn byw gyda'i gilydd ddim i gael eu buddiannau perthnasol wedi’u cyfuno er mwyn sefydlu a yw'r budd a ddelir yn fwy na 50 y cant. Mae hyn yn caniatáu i gyplau sydd wedi gwahanu gael eu hystyried yn unigol yn hytrach na chael eu hasesu fel un uned economaidd gyda'u priod neu bartner sifil blaenorol. Mae hyn yn gyson â darpariaethau eraill yn Atodlen 5 sy'n ymwneud â'r rhai sydd wedi gwahanu yn awr.
Mae'r gwelliant hwn yn mewnosod is-baragraff i baragraff 33 Atodlen 5. Mae'n diwygio'r rheolau sy'n ymwneud ag eiddo sy'n cael ei etifeddu. Y rheol bresennol yw, pan fo person yn etifeddu buddiant nad yw'n fwy na 50 y cant o'r eiddo, yna ni fydd y buddiant hwnnw yn cael ei ystyried wrth sefydlu a yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad am 36 mis ar ôl y dyddiad y cafodd ei etifeddu. Os yw priod neu bartneriaid sifil ill dau wedi etifeddu buddiannau yn yr eiddo, yna byddai angen i’r buddiannau hynny gael eu cydgasglu i ddibenion sefydlu a oedd buddiant dros 50 y cant yn eiddo iddynt.
Llywydd, mae hwn yn welliant arall sydd yn ymateb i amgylchiadau cymharol brin, ond a gynlluniwyd i wella tegwch y system, a gofynnaf i Aelodau i'w gefnogi am y rheswm hwnnw.
Nid oes siaradwyr yn y grŵp yma, ac felly nid oes angen galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 17.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 18.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 18.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 19.
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 19.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 20.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 20.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 21.
Move.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn cwestiwn 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 21.
Mark Reckless—gwelliant 41.
A gaf fi ddweud, Llywydd, nid wyf am gynnig gwelliant 41?
Nid yw'r gwelliant yn cael ei gynnig ac ni fydd pleidleisio arno, felly.
Mark Reckless—gwelliant 42.
Yn yr un modd, nid wyf yn ceisio cynnig 42.
Nid yw'r gwelliant yn cael ei gynnig.