Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 28 Mawrth 2017.
Llywydd, fel y dywedasoch, mae'r rhain yn welliannau technegol sydd i gyd yn ceisio gwella gwahanol ddiffiniadau a ddarperir yn y Bil. Mae gwelliant 4 yn mewnosod diffiniad o 'cofrestrydd' yn adran 65 y Bil, ar gyfer cofrestru trafodiadau tir. Mae gwelliant 5 yn gysylltiedig â gwelliant 4, gan ei fod yn cael gwared ar ddiffiniad heb ei ddefnyddio o 'cofrestrydd' yn yr un adran, at ddibenion gwella eglurder. Mae gwelliannau 25 a 26 yn mewnosod y geiriau 'sir' a 'cyngor bwrdeistref sirol' yn y drefn honno er mwyn eglurder. Mae gwelliant 27 yn diweddaru rhif yr adran a ddarperir yn Neddf Priffyrdd 1980 i sicrhau bod y croesgyfeiriad cywir yn cael ei ddefnyddio wrth chwilio am ystyr ar gyfer 'priffordd'. Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau—maent yn gwella drafftio'r Bil.