Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Dyma’r gyfres olaf o welliannau technegol yn unig a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Mae gwelliant 23 yn gwneud mân welliannau technegol i’r drafftio presennol ar gyfer trafodiadau partneriaeth sy'n ymwneud â phartneriaethau sydd wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o gyrff corfforaethol. Mae trafodiadau sy’n cynnwys partneriaethau yn cael eu llywodraethu gan reolau penodol, a nodir yn Atodlen 7 y Bil. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod y rheol hon yn gweithredu mewn modd sy'n gyson â rheolau treth dir y dreth stamp sy'n bodoli eisoes. Mae gwelliant 22 yn ganlyniadol ar welliant 23, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau ohonynt.