<p>Grŵp 12: Pŵer i Ddiwygio’r Cyfnod Pan Fo Rhaid Dychwelyd Ffurflenni Treth (Gwelliant 3)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:04, 28 Mawrth 2017

Grŵp 12 yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma yn ymwneud â’r pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni treth. Gwelliant 3 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig ei welliant.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:05, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 3—yr unig welliant yn y grŵp hwn—yn mewnosod paragraffau newydd i adran 52, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio gan reoliadau y cyfnod y mae'n rhaid dychwelyd ffurflenni. Mae adran 52 eisoes yn cynnwys pŵer i ddiwygio cyfnodau dychwelyd ffurflenni eraill, er enghraifft, mewn perthynas â ffurflenni pellach. Mae'r gwelliant hwn yn ychwanegu at y darpariaethau yn Atodlen 6 yn ymwneud â chyfnodau dychwelyd ffurflenni ar gyfer prydlesi. Nod y gwelliant yw cywiro hepgoriad i sicrhau bod yr holl gyfnodau dychwelyd perthnasol yn cael eu dal, gan gynnwys cyfnodau dychwelyd ar gyfer prydlesi. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio, os oes angen yn y dyfodol, y cyfnod pryd mae’n rhaid i’r holl ffurflenni gael eu dychwelyd, gan sicrhau cysondeb o ran triniaeth ar gyfer yr holl ffurflenni. O gofio y gallai hyn newid faint y byddai yn rhaid i unigolyn ei dalu yn y dyfodol, bydd rheoliadau a wneir dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:06, 28 Mawrth 2017

Nid oes siaradwyr eraill yn y grŵp yma. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:07, 28 Mawrth 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 28.

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.