Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Wel, mewn trafodaethau blaenorol am y Mesur, rwyf i wedi bod yn hapus i gytuno â’r egwyddor y dylai gweithrediad y dreth trafodiadau tir gael ei fonitro a'i adolygu. Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cyflwyniad trefniadau rhyddhad newydd ac effaith y gordal ar eiddo preswyl ychwanegol. Cytunais hefyd y prynhawn yma y dylem ni barhau i adolygu pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i gyflwyno trethi newydd sy'n fwy addas i Gymru. Fy nealltwriaeth i o welliant 31 yw y bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir, y bydd yn rhaid ei gwblhau o fewn chwe blynedd i roi’r dreth ar waith ym mis Ebrill 2018. Gallai hyn gynnwys adolygiad o weithrediad y dreth trafodiadau tir neu unrhyw elfen benodol o’r dreth honno, megis y gordal. Gallai hefyd gwmpasu unrhyw newidiadau neu ddulliau amgen i'r dreth yn fwy cyffredinol. Credaf fod cwmpas yr adolygiad yn ddigon eang i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn canolbwyntio ar faterion sy'n peri’r pryder mwyaf. Rwyf hefyd yn falch o gydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai adolygiad o'r fath fod yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Rwy'n credu bod yr amseru a gynigir yn y gwelliant yn ddigonol i ganiatáu i gyfnod fynd heibio pan fo’r dreth wedi bod ar waith i allu cynnal adolygiad synhwyrol. Byddai'r adolygiad o’r dreth trafodiadau tir felly hefyd yn ategu ymrwymiad presennol i ddechrau adolygiad o benderfyniadau dirprwyaeth Awdurdod Cyllid Cymru dair i bum mlynedd ar ôl i’r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2018.
Llywydd, rwy'n disgwyl y bydd gan y Pwyllgor Cyllid ei fuddiannau ei hun yn y materion hyn a’i fod yn debygol o wneud hynny yn gynt na'r cyfnod a nodir yn y gwelliant hwn. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng yr hyn a gynigir yma a'r cyfrifoldebau y bydd y Pwyllgor Cyllid ei hun yn dymuno eu cyflawni. Ar sail yr hyn yr wyf wedi’i egluro, byddaf yn gofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.