Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 28 Mawrth 2017.
Jest yn fyr iawn i ddweud nad oes gen i gopi Saesneg o’r gwelliant ger fy mron, ond rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi tanlinellu yn gymwys bwrpas y gwelliant, a dweud, wrth gwrs, nad oes yna ddim byd yn y gwelliant yma sydd yn cynnig unrhyw waharddiad ar unrhyw bwyllgor mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le rhag gwneud adolygiad pryd bynnag y mae eisiau ar y dreth yma o gwbl.