Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch. Clywais y gymeradwyaeth honno, Llywydd, pan wnaethoch chi gyhoeddi mai hwn oedd y grŵp olaf, felly byddaf yn fyr iawn. Mae’r unig welliant, y prif welliant, yr wyf yn dymuno’i gynnig, 34, yn y grŵp hwn, yn ymwneud â chynnwys adran newydd:
'Canllawiau. Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r ACC ynghylch mabwysiadu arfer gorau ar gyfer gweinyddu'r dreth trafodiadau tir. '
Y sail ar gyfer y gwelliant hwn—ac rwyf wedi trafod y peth i raddau ag Ysgrifennydd y Cabinet o'r blaen—mewn gwirionedd yw sicrhau gwerth am arian. Edrychwyd ar brofiad yr Alban, ac mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi gwybodaeth am yr Alban—wel, Cyllid yr Alban, dylwn i ddweud—yn rhannu swyddogaethau swyddfa gefn yn sgil Deddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013 yn dod i rym yno. O ganlyniad i’r cyfyngiad ar gyllid cyhoeddus, yr ydym yn siarad amdano yn aml, a'r angen i ddarparu gwerth am arian, mae'r gwelliant hwn yn awgrymu y dylai Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau fel y mae'n bwriadu parhau drwy rannu swyddogaethau swyddfa gefn neu ba bynnag fesurau arbed costau y gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl i’r awdurdod newydd eu cyflawni. Dyma beth sydd wrth wraidd y gwelliant—y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych am ffyrdd y gallai Awdurdod Cyllid Cymru fod yn effeithlon o'r cychwyn, y gallai fod yn effeithlon wrth symud ymlaen, ac y gallai yn y pen draw roi gwerth am arian i'r trethdalwr. Ar ôl dweud hynny, rwy’n awyddus i glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud am y gwelliant hwn, ac rwy’n cadw meddwl agored i’w awgrymiadau.