Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae Nick Ramsay wedi’i ddweud y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod fy nealltwriaeth i o’r gwelliant ychydig yn wahanol o ran ei brif ddiben a'r un yr ydym newydd ei glywed. Gwelliant yw hwn sy'n darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru yn rhoi canllawiau i Awdurdod Cyllid Cymru ar weinyddu’r dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn ystod hynt y Bil fy mod i’n gyfan gwbl o blaid Awdurdod Cyllid Cymru yn darparu arweiniad cadarn i'w drethdalwyr, ei asiantau a'r Awdurdod ei hun. Mae'n amlwg yn arfer gorau i awdurdod treth sicrhau y gall ei gwsmeriaid a’i staff gydymffurfio â'u rhwymedigaethau.
Ni allaf ofyn i’r Aelodau ar fy ochr i bleidleisio dros y gwelliant hwn, fodd bynnag, oherwydd fy mod i’n ymwybodol iawn ei fod yn ymwneud â’r annibyniaeth weithredol glir hynod bwysig y mae angen i Awdurdod Cyllid Cymru ei chael ar y Llywodraeth. Hwn fydd ein hadran anweinidogol cyntaf. Mae aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn gywir iawn yn nodi’r angen am drefniant hyd braich rhwng y Llywodraeth a'r Awdurdod fel sefydliad a fydd yn ymdrin â materion treth unigol dinasyddion preifat. Mae cael Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau i'r Awdurdod, yn fy marn i, yn golygu tanseilio’r annibyniaeth sydd ei hangen. Rwy’n awyddus i weithredu mewn modd sy'n gyson â'r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod hynt Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Yno, o ganlyniad i drafodaethau Cyfnod 2, mae'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru y gallu i roi cyfarwyddyd strategol i Awdurdod Cyllid Cymru ar eu polisïau a’u blaenoriaethau treth, ond nid oes ganddynt bwerau—nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau—i ddarparu unrhyw gyfarwyddyd sy'n benodol i Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn sicrhau’r berthynas hyd braich annibynnol honno.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod y prynhawn yma ar ôl ei glywed, fodd bynnag, yw fy mod i’n barod i ymrwymo ar gofnod i bwysigrwydd arweiniad gweithredol clir ar gyfer y dreth hon. Rwy'n hapus i ddweud y byddaf yn ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru pan fydd y penodiad wedi ei gadarnhau yn nodi fy nisgwyliadau bod yn rhaid i’r ddarpariaeth o ganllawiau cadarn fod yn flaenoriaeth allweddol i Awdurdod Cyllid Cymru. Ac ar ôl clywed y pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud y prynhawn yma am weinyddiaeth effeithlon a rhannu gwasanaethau swyddfa gefn, rwy’n hapus iawn i sicrhau y byddaf yn codi’r pwynt hwnnw yn y llythyr y byddaf yn ei ysgrifennu at gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, sydd, mewn ffordd, yn darparu cylch gwaith i’r cadeirydd i sicrhau bod yr Awdurdod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau y mae'r pwyllgor a'r Llywodraeth yn dymuno eu gosod ar eu cyfer yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw i'r Aelod y prynhawn yma, er, os daw’r mater i bleidlais, byddaf i’n pleidleisio yn ei erbyn.