Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ymatebion hyd yma. Roedd y lluniau o lawer o'r tanau hyn a ddaeth yn hysbys yn ddramatig, yn yr ystyr waethaf, dros y penwythnos, oherwydd, mae’n amlwg, mae’r perygl i fywyd—nid dim ond i’r dynion a’r menywod tân, yn amlwg, sy'n mynd i ymladd â'r tanau hyn, ond hefyd i’r trigolion wrth ymyl y tanau. Rwy’n cofio’r amser yn dda pryd y daeth eich cydweithiwr Leighton Andrews yma i roi ymatebion tebyg yn y Cynulliad blaenorol, ac eto, yn anffodus, rydym yn gweld y tanau hyn—yn gynnar iawn, byddwn yn ei awgrymu, yn y tymor; hwn yw’r penwythnos cyntaf gwirioneddol sych i ni ei gael hyd yn hyn y gwanwyn hwn.
Gofynnaf yr un cwestiwn i chi ag y gofynnais iddo ef: yn aml iawn, gellir mynd ar drywydd llawer o'r bobl sy'n gyfrifol am rai o'r tanau hyn gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd, fel y dywedais, mae'r lluniau yn ddramatig iawn, ac, yn aml, mae pobl yn ceisio’r ias o foddhad—mewn ffordd ddinistriol iawn, ddywedwn i. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd, ynghyd â'r heddlu, ynghyd â'r gwasanaeth tân—rwy’n clywed bod gan y gwasanaeth tân offer addysgol ardderchog ar gael iddyn nhw, ac maen nhw’n mynd i ysgolion, ond mae’n ymddangos nad yw hynny'n rhoi stop ar y rhai sy’n llosgi? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn sydd wrth fôn llawer o danau dynwaredol, drwy’r Cymoedd yn arbennig. Felly, byddwn yn falch o gael deall pa ymdrech yr ydych wedi'i gwneud, ynghyd â'r asiantaethau gorfodi, i geisio mynd ar drywydd a dilyn y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cymell eraill i ymgymryd â gweithredoedd fel llosgi bwriadol a fandaliaeth.