Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 28 Mawrth 2017.
Rwy'n tybio bod yr Aelod yn cyfeirio at y llosgydd yn y Barri. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i adeiladu gweithfeydd ynni biomas o fewn ardal adfywio dociau'r Barri. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried a ddylid rhoi caniatâd amgylcheddol, ac mae llawer o ymgynghori yn digwydd. Yn amlwg, rwyf i, fel Aelod Cynulliad, wedi bod yn rhan o hynny. Ond, wrth gwrs, mae materion yn ymwneud â chaniatâd cynllunio yn fater i'r awdurdod cynllunio lleol ac nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylwadau.