5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:50, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Julie Morgan wedi tynnu ein sylw at newid, efallai nad oeddem ni’n ymwybodol ohono, yn ôl ym mis Ebrill 2014, gan fod trwyddedu gyrwyr yn fater a gadwyd yn ôl, a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau sy’n pennu cynnwys a darpariaeth y prawf theori yng Nghymru. Cafwyd gwared ar y defnydd o wasanaeth trosleisio iaith dramor a dehonglwyr ar gyfer profion theori ym mis Ebrill 2014, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae’n ymddangos. Ond, yn sicr, mae hwn yn fater y byddem ni eisiau sicrhau bod ein barn ni, yn enwedig yn awr gan ein bod ni’n canolbwyntio ar ein cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sy'n cael ei diweddaru yn ystod y flwyddyn hon—. Mae'n ymwneud â chydgysylltu rhwng asiantaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ond, yn amlwg, â Llywodraeth y DU hefyd. Felly, mae hon yn broblem, yn benodol, y byddem yn dymuno ei thrafod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ond, yn bwysicaf oll, â Llywodraeth y DU o ran y cyfleoedd hynny, a gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r mater hwn.

Ynglŷn â’ch ail bwynt, rwyf newydd sôn am y dyraniadau diogelwch ar y ffyrdd lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau i leihau anafiadau. Os edrychwch ar yr ystadegau ar gyfer beicwyr modur a seiclwyr, roedd yr ystadegau ar gyfer seiclwyr yn unig yn 7 y cant o anafiadau, ac roedd 10 y cant o'r rheini wedi’u lladd neu wedi’u hanafu’n ddifrifol. Rydym yn cyhoeddi’r bwletin ystadegol ar feiciau pedlo ar 5 Ebrill, felly bydd hwnnw’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae gennym grŵp llywio diogelwch sy’n cefnogi gwaith i gyrraedd targed o leihau’r niferoedd a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol 25 y cant. Mae hynny'n ymwneud â beicwyr modur, ond rwy’n credu bod y safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant seiclo ym mhob awdurdod lleol yn hanfodol bwysig. Ddoe, cefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet lansiad Ymgyrch Darwen, ymgyrch orfodi ac ymgysylltu Cymru gyfan gan yr heddlu, ac rwy’n credu bod yr enghraifft hon yn rhywbeth y byddem ni’n amlwg yn awyddus i’w hystyried.