Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 28 Mawrth 2017.
A gaf i godi dau fater, os gwelwch yn dda, gyda’r rheolwr busnes, yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl a oedd i’w chynnal heddiw, yn nes ymlaen, ynglŷn â thirweddau, wedi’i thynnu'n ôl? Pe na byddai wedi’i thynnu'n ôl, byddwn i’n sicr wedi dadlau bod hyn yn annerbyniol. Nodir yn glir iawn yn ein Rheolau Sefydlog y dylai unrhyw drafodaeth sy'n ymwneud ag adroddiad gynnwys yr adroddiad hwnnw gyda’r ddadl honno, ac roedd yr etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â mi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn sicr bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad y mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn ei baratoi ar ran Llywodraeth Cymru ar dirweddau yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid ydym wedi gweld yr adroddiad hwnnw, nid ydyw wedi’i gyhoeddi, er bod fy etholwyr i wedi bod yn awyddus iawn i anfon ataf gopïau drafft o'r adroddiad, ynghyd â'u beirniadaeth o’r adroddiad, a fyddai wedi golygu dadl ddiddorol iawn, ond, un na fyddai wedi bod yn adeiladol iawn yn y Siambr hon, yn fy marn i. A gaf i ofyn am sicrwydd, felly, na cheir ymgais gan Lywodraeth Cymru i’n trin ni fel hyn eto ac na fyddwn yn trafod y mater hwn nes ein bod wedi gweld yr adroddiad, wedi’i gyhoeddi’n llawn, a’n bod ni wedi cael digon o amser i astudio'r adroddiad ac, wrth gwrs, i gysylltu a gwrando ar bryderon ein hetholwyr ynglŷn ag elfennau’r adroddiad hwnnw?
Yr ail fater yr hoffwn ei godi gyda'r rheolwr busnes yw gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, maes o law, mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU ac Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y DU i newid y contract ynglŷn â datgomisiynu’r hen adweithyddion niwclear Magnox yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n effeithio, yn benodol, wrth gwrs, ar Drawsfynydd yn fy rhanbarth i, a hefyd Wylfa. Mae'r rhain yn gontractau o bwys y canfuwyd bod Llywodraeth y DU wedi dilyn proses gaffael ffug a diffygiol i’w sicrhau, a’i bod wedi gorfod talu arian y trethdalwyr i gwmnïau Americanaidd i beidio â chael ei herio’n gyfreithiol. Ymddengys ar hyn o bryd, o newid y contract gyda'r cwmni a wnaeth ennill y contract, o fewn y ddwy flynedd nesaf bydd yn costio tua £100 miliwn, yr wyf yn credu sy’n ffigur i’w gadw mewn cof pan fo Llywodraeth y DU yn dweud wrthym fod ynni adnewyddadwy yn ddrud. Efallai fod cyfle yma inni adolygu'r hyn sydd ei angen o ran datgomisiynu yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa, ac efallai’n wir bod newidiadau gwahanol i'r hyn sy'n digwydd yno, ond hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud wrthym beth allai hynny fod. Mae’n bosibl y gallai fod angen mwy o waith dwys, mae’n bosibl y gallai fod angen llai o waith—ni wyddom. Ond byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynnal trafodaethau â'r awdurdod ac â Llywodraeth y DU, ac mai’r rhain yw'r goblygiadau ar gyfer cyflogaeth, wrth symud ymlaen, yn ymwneud â’r ddau hen safle Magnox, yn werthfawr i'r Cynulliad yn fy marn i.