Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 28 Mawrth 2017.
Dirprwy Lywydd, mae'r rheoliadau sydd wedi eu gosod gerbron y Cynulliad i chi eu hystyried heddiw yn welliant i'r Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio Hysbysiadau) (Cymru) 2011 presennol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn unol â'r pwerau a nodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd Rhan 6 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i ddarparu pwerau ychwanegol i godi tâl ar gyfer trwyddedu morol yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth ddiwygio hon yn cwmpasu newidiadau bach technegol i ddarparu mecanwaith apelio ar gyfer hysbysiadau a gyhoeddwyd o ganlyniad i ddaliwr trwydded yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad i dalu blaendal neu dâl ffi yn unol â phwerau codi tâl a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gellir cyflwyno hysbysiad i drwyddedai i amrywio, atal neu ddirymu trwydded forol. Bydd yr un gweithdrefnau a dulliau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pob apêl rhybudd arall o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn berthnasol. Mae hwn yn rhan o becyn ehangach o ddeddfwriaeth i gyflwyno ffioedd a thaliadau newydd ar gyfer trwyddedu morol ar 1 Ebrill 2017. Bydd y ffioedd newydd, yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno o 1 Ebrill eleni, 2017, ymysg canlyniadau cadarnhaol eraill, yn arwain at ddarpariaeth ehangach o wasanaethau cyn-ymgeisio a phennu ffioedd yn gymesur yn erbyn y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.
Cafodd yr apeliadau yn erbyn hysbysiadau a'r cynigion ffioedd ehangach eu llunio i ddechrau drwy ymgysylltu’n agos â'r grŵp rhanddeiliaid trwyddedu morol, drwy ohebiaeth a gweithdy i randdeiliaid. Mae'r grŵp rhanddeiliaid yn cynrychioli'r sector morol, yn enwedig agregau, ynni adnewyddadwy, adeiladu, carthu, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr trwyddedu morol eraill. Yna, roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ddiwygio ffioedd trwyddedu morol a thaliadau cysylltiedig yng Nghymru rhwng 5 Medi 2016 a 28 Tachwedd 2016. Cynhaliwyd gweithdy arall i randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Roedd bron yr holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion. Bydd y ffioedd a'r taliadau newydd yn cael eu hadolygu'n gyson, gyda gwelliant parhaus yn werth craidd, i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth trwyddedu morol effeithlon a chynaliadwy i bobl Cymru. Mae'r rheoliadau apelio hysbysiadau wedi’u diwygio yn sicrhau bod deiliaid trwydded yn gallu apelio yn erbyn hysbysiadau a gyflwynir am beidio â thalu ffioedd a blaendaliadau. Dirprwy Lywydd, rwy’n cymeradwyo’r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.