7. 4. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017

– Senedd Cymru am 3:04 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:04, 28 Mawrth 2017

Item 4 on our agenda is the Partnership Arrangements (Wales) (Amendment) Regulations 2017. I call on the Minister for Social Services and Public Health to move the motion. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6271 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:04, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau diwygio ger eich bron yn cefnogi gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Maent yn ymwneud â'r swyddogaethau yn Rhan 2 o'r Ddeddf honno ynghylch cynhyrchu cynlluniau ardal. Ynghyd â chefnogi canllawiau statudol, roedd y rhain yn destun ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 3 Hydref, y cafwyd 27 o ymatebion iddo. Cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o'r canllawiau statudol yn sail i’r gwaith craffu. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ym mis Ebrill.

Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael eu gwneud o dan adrannau 166 a 167 o'r Ddeddf. Maent yn diwygio'r prif reoliadau, sy'n mynnu sefydlu trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd dan gyfarwyddyd byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn ychwanegu swyddogaethau cynllunio ardal adran 14A at y rhestr o swyddogaethau a gyflawnir gan y trefniadau partneriaeth. Cafodd adran 14A o'r Ddeddf ei mewnosod gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd y Ddeddf honno’n disodli nifer o ddyletswyddau cynllunio â’r cynlluniau lles strategol newydd. Fodd bynnag, cytunodd y Gweinidogion fod angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddal i gynllunio yn benodol ynglŷn â diwallu anghenion gofal a chymorth pobl, gan gynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Mae adran 14A, felly, yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i nodi'r camau y mae angen i’r ddau ohonynt eu cymryd fel ymateb i'r asesiad o’r boblogaeth y mae’n ofynnol iddynt ei gyflawni. Drwy ychwanegu swyddogaethau cynllunio ardal adran 14A at y rhestr o swyddogaethau a gyflawnir gan y trefniadau partneriaeth, mae'r rheoliadau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynhyrchu cynlluniau ardal ar y cyd ar ôl troed y bwrdd iechyd, yn gyson â'r asesiad o’r boblogaeth. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar wasanaethau integredig mewn ymateb i'r asesiad hwnnw, ac yn gosod yr agenda ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Gosodwyd Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 ar wahân i ymwneud â manylion cynlluniau ardal ar 27 Ionawr. Mae'r rheini’n amodol ar y broses penderfyniad negyddol, a drefnwyd i'w chwblhau erbyn 1 Ebrill. Mae’r rheoliadau hynny’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi’r cynlluniau ardal cyntaf erbyn mis Ebrill 2018, un flwyddyn ar ôl adroddiadau’r asesiad cyntaf o’r boblogaeth.

Mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r gofyniad bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn sefydlu cronfeydd cyfun. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth ystyried priodoldeb sefydlu cronfeydd cyfun wrth weithio ar y cyd mewn ymateb i'r asesiad o’r boblogaeth. Mae hyn yn rhoi mwy o ddisgresiwn na'r gofyniad presennol i sefydlu cronfeydd cyfun ar gyfer yr holl swyddogaethau a arferir ar y cyd.

Yn olaf, mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys mân welliannau i sicrhau swyddogaethau integredig cymorth i deuluoedd, gan gynnwys swyddogaethau awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc o dan Ran 6 o Ddeddf 2014 ar Blant sy'n Derbyn Gofal ac yn Cael eu Lletya, yn ogystal â’r rhai a aseswyd o dan Ran 4. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:07, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, nid oes gennym siaradwyr; felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.