8. 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:07, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y memorandwm. Rwy'n falch o nodi nad yw’r pwyllgor wedi canfod rheswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Bil Pedolwyr (Cofrestru) yn diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975. Mae hon yn pennu cyfrifoldeb statudol y Cyngor Cofrestru Pedolwyr, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Mae dros 200 o bedolwyr cofrestredig yn byw yng Nghymru. Mae gan y cyngor gyfrifoldebau, fel y'u nodwyd yn y Ddeddf, i gadw cofrestr o bedolwyr i benderfynu pwy sy'n gymwys i gofrestru ac i wneud rheolau ynghylch ffurf y gofrestr a sut y’i cedwir. Mae'r cyngor hefyd yn rheoleiddio hyfforddiant pedoli. Mae hefyd yn cynnal ymchwiliadau rhagarweiniol mewn achosion disgyblu drwy ei bwyllgor ymchwilio, ac yn penderfynu achosion drwy ei bwyllgor disgyblu.

Mae'r trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio pedolwyr bellach wedi dyddio ac nid ydynt mwyach yn unol â rheoleiddio proffesiynau eraill. Bwriad y gwelliannau a gynigir yn y Bil yw diweddaru cyfansoddiad y cyngor, a'i bwyllgorau archwilio a disgyblu, i’w gwneud yn addas i’r diben ac i'w gwneud yn haws gwneud newidiadau o'r fath yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, er mwyn gwneud unrhyw newidiadau i'r cyngor a'i bwyllgorau, mae angen gwelliant i’r Ddeddf, sy'n golygu bod angen deddfwriaeth sylfaenol. Mae hyn yn anhyblyg ac yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod y cyngor a'i bwyllgorau’n cael eu cadw'n gyfoes i aros yn addas i'w diben. Bydd y Bil yn caniatáu i welliannau i drefniadau llywodraethu’r cyngor a'i bwyllgorau yn y dyfodol gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban.

Diben y cyngor yw gweithredu er lles anifeiliaid. Mae hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y cyngor gyfansoddiad sengl, ac mae cytundeb polisi ledled Prydain Fawr ar gyfer gwneud y newidiadau hyn, a fydd yn moderneiddio’r gwaith o reoleiddio'r proffesiwn pedoli.