Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd cael dweud gair byr iawn yma heddiw. Gwnes y camgymeriad ar y pwyllgor o gydnabod fy mod yn gyfarwydd â'r Cyngor Cofrestru Pedolwyr, ac, er fy mhechodau, dywedodd y Cadeirydd yn rasol, 'Wel, cewch chi ddweud ychydig o eiriau.' Byddai ef yn fwy nag abl ei hun. Ond hoffwn sôn am ychydig o bethau.
Fel yr ydym newydd ei glywed, mae hyn yn sicr yn foderneiddio, ac yn foderneiddio hir ddisgwyliedig, i’r Cyngor Cofrestru Pedolwyr. Ni wnaeth y pwyllgor CCERA, dan gadeiryddiaeth Mark Reckless, ddod o hyd i unrhyw reswm dros wrthwynebu. Rydyn ni wedi trafod hyn ac nid ydym wedi dod o hyd i reswm i wrthwynebu. Buom yn trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 16 Mawrth. Mae'n diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975, sy'n nodi cyfrifoldeb statudol y cyngor cofrestru, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Ac mae'r trefniadau, fel y dywedwyd eisoes, ar gyfer rheoleiddio pedolwyr, fel y’u nodir yn y Ddeddf honno, wedi dyddio, felly mae’r diweddaru a’r moderneiddio hwn i’w croesawu.
Bydd hyn yn caniatáu inni ddiweddaru cyfansoddiad y cyngor ac, yn bwysig iawn, i’w bwyllgorau archwilio a disgyblu, iddo fod yn wirioneddol berthnasol i'w aelodau ac i’r rheini sy'n dod gerbron y pwyllgorau hynny. Bydd hyn yn golygu y bydd yn addas i’w ddiben ac yn cyd-fynd â rheoleiddio proffesiynau eraill sydd wedi moderneiddio fel hyn dros y blynyddoedd, a rhai ohonynt gryn amser yn ôl. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws gwneud newidiadau eraill yn y dyfodol.
Felly, fel y soniais, mae’n cynnwys newid aelodaeth y pwyllgor ymchwilio statudol a'r pwyllgor disgyblu. Felly, yn hytrach na bod y rheini wedi’u cyfansoddi o aelodau o'r cyngor, bydd y gwrthwyneb yn berthnasol. Ni ddylai aelodau fod yn aelodau o'r cyngor, sydd wedi achosi cryn bryder yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn er mwyn cyflawni’r gwahaniad pwerau sydd ei angen, gan sicrhau nad y bobl sy'n gosod safonau ar gyfer y proffesiwn yw’r rhai sy'n ymchwilio ac yn dyfarnu os bydd rhywun yn methu â bodloni’r safonau hynny. Ac mae hefyd yn gwneud mesurau eraill, fel cyflwyno gofynion ffitrwydd i wasanaethu ar gyfer holl aelodau'r cyngor a'r pwyllgorau statudol, fel sy'n arfer mewn cyrff rheoleiddio eraill.
Felly, mae hyn wedi cael ei gymeradwyo, a dweud y gwir, gan bawb sydd wedi ei weld—y Bil gwreiddiol a gynigiwyd gan Byron Davies yn San Steffan, y pwyllgorau sydd wedi edrych arno, Llywodraeth Cymru ei hun a fu’n ymgynghori arno, Llywodraeth yr Alban a fu’n ymgynghori arno, DEFRA ei hun, ac wrth gwrs y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yma, a fu’n edrych arno—felly does dim rheswm i beidio â chymeradwyo hyn—a gan y pwyllgor CCERA. Felly, mae pawb wedi rhoi sêl bendith iddo. Nid yw'n syndod o gwbl. Mae'n foderneiddio hir ddisgwyliedig, ac rwy’n dymuno’n dda iddynt wrth weithredu’r mesurau newydd hyn yr ydym yn eu cyflwyno yma o fewn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o fewn Bil Byron Davies, gan fy mod yn credu y caiff groeso gan y rheini sy'n dod gerbron y Cyngor Cofrestru Pedolwyr.