Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion y bydd canolfan Trafnidiaeth Cymru ynghyd â swyddfeydd rhaglen bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn newyddion ardderchog i fy awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, gallent olygu cannoedd o swyddi o safon ar gyfer y Cymoedd, ac atgyfnerthu’r adfywiad economaidd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau bod y ddau gynllun yn darparu cymaint o fudd â phosibl i’r Cymoedd gogleddol, ac yn benodol i fy etholaeth i, Cwm Cynon?