Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Mawrth 2017.
Mae’n ffaith drist mai ychydig iawn sydd wedi’i wneud i sicrhau olynwyr i’r hen ddiwydiannau trwm a fu gynt yn darparu cyflogaeth, tai a seilwaith ledled y Cymoedd. Mae’r dinas-ranbarth yn addo llawer, ond nid oes fawr ddim manylion, ac yn y cymunedau hynny a fydd yn cael eu heffeithio, mae llawer o ddryswch ynghylch beth yn union y bydd yn ei gyflawni. Mae gennym hefyd dasglu’r Cymoedd, a ymddangosodd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn fuan wedi i’r Blaid Lafur golli sedd gadarn yn y Cymoedd. Tybed ai cyd-ddigwyddiad yn unig oedd hynny. A allwch ddweud wrthyf a oes unrhyw drefniadau gweithio ar y cyd rhwng y dinas-ranbarth a thasglu’r Cymoedd? A oes trafodaeth reolaidd rhyngoch chi a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y tasglu? Mae arnom angen mwy o swyddi yn yr hen ardaloedd glofaol, ac mae angen swyddi o well ansawdd hefyd, ac nid yw methu â chyflawni hyn gyda’r dinas-ranbarth neu dasglu’r Cymoedd yn opsiwn.