Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, bydd cysyniad y fargen ddinesig yn sbarduno cryn dipyn o weithgarwch economaidd ac adfywio, yn ardal Abertawe ac ardal Caerdydd. Gyda bargen ddinesig Caerdydd, mae 10 awdurdod lleol yn rhan o’r cytundeb hwnnw, a llawer ohonynt yn y Cymoedd. Rydym yn mesur llwyddiant, yn amlwg, drwy’r gwerth ychwanegol gros a’r gweithgarwch economaidd a ddaw o’r Cymoedd. Beth, yn eich barn chi, fydd y gwerth ychwanegol gros yn y Cymoedd dros y pump i 10 mlynedd nesaf? Pa byrth allweddol a roesoch ar waith er mwyn gweld y cynnydd yn y gwerth ychwanegol gros?