<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â gwleidyddion Iwerddon. A gaf fi ei annog, mewn trafodaethau pellach, i ddysgu o’r offer a’r tactegau y mae’r Gwyddelod eu hunain wedi eu mabwysiadu? Yn ddiweddar, er enghraifft, mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi strategaeth fasnach ddynodedig. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru strategaeth fasnach benodol. Mae’n nodi dulliau rhanbarthol wedi’u targedu ar gyfer Asia, ar gyfer y dwyrain canol, ac Affrica—sectorau allweddol lle y nodwyd cyfleoedd penodol. Mae’n ddull Llywodraeth gyfan, sydd hefyd yn cynnwys cysylltiadau dwyochrog eraill, gan gynnwys cymorth addysg, diwylliant a datblygu, ac ati.

Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod yr ystadegau allforio mwyaf diweddar yn dangos, er bod gan Gymru ddylanwad cryf o ran gwarged masnach gyda’r UE, fod gennym ddiffyg o £3.7 biliwn gyda gweddill y byd, a bydd honno’n farchnad allweddol, yn amlwg, ar ôl Brexit. Mae arnom angen ymagwedd strategol gan y Llywodraeth, ond mae angen ymdeimlad o frys hefyd. Mae Llywodraeth Iwerddon eisoes, drwy Bord Bia, wedi creu baromedr Brexit i roi cymorth i fusnesau asesu pa mor barod ydynt ar gyfer y bygythiadau a’r cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit. Yn ogystal â chynnig baromedr tebyg ar gyfer busnesau Cymru, efallai y byddai’r Llywodraeth yn awyddus i sefyll y prawf eu hunain, oherwydd, o gymharu â’r Gwyddelod, rwy’n ofni ein bod ar ôl ar hyn o bryd o ran lefel cynllunio a pharodrwydd ar gyfer yr her economaidd fwyaf i neb ohonom ei hwynebu erioed.