<p>Cynyrchiadau Teledu a Ffilm</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:01, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich ymdrechion egnïol a rhagorol i sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? Nodais â diddordeb y ffilm hyrwyddo a gyflwynwyd gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n cynnwys clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddaraf i gael eu ffilmio yng Nghymru, ac sy’n hyrwyddo popeth sydd gan y wlad i’w gynnig fel lleoliad ffilmio. Roedd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus i Sgrîn Cymru, wrth iddynt ymdrin â 386 o ymholiadau cynhyrchu, gyda chynyrchiadau’n gwario dros £41 miliwn yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog rhagor o hyrwyddo ar Gymru a diwylliant Cymru mewn cynyrchiadau teledu a ffilm?