Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Mawrth 2017.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diogelwch beicio yn fy rhanbarth. A gaf fi dynnu eich sylw, Gweinidog, at fap llwybrau teithio llesol ar gyfer Aberystwyth, nad yw’n cynnwys llwybr Ystwyth? Nawr, llwybr Ystwyth yw’r unig lwybr di-draffig rhwng Aberystwyth a maestrefi fel Rhydyfelin a Llanfarian. Rwy’n gyfarwydd iawn ag ef ac mae’n llwybr sy’n cael cryn ddefnydd. Fodd bynnag, ni ellir ei fapio, mae’n debyg, gan nad yw’r groesfan ar draws y gefnffordd yn Nhrefechan yn cyrraedd y safon. Mae’r gefnffordd yn rhan o’ch cylch gorchwyl, ond ni all yr awdurdod lleol fapio’r llwybr a’i gynnwys fel llwybr teithio llesol neu lwybr diogel am fod y groesfan yn cael ei hystyried yn ‘fethiant difrifol’ yn ôl archwiliad Sustrans o’r llwybr. Pa gamau y gallwch eu cymryd, gyda’r awdurdod lleol yng Ngheredigion, i geisio uwchraddio’r groesfan honno fel y gallwn gynnwys llwybr Ystwyth, sydd wedi costio cryn dipyn o arian i’w adeiladu—gan gynnwys arian o Ewrop—yn ein cynlluniau teithio llesol er mwyn iddo ddod yn fwy cyfarwydd a chael mwy o ddefnydd yn Aberystwyth a’r cyffiniau?