<p>Y Diwydiant TGCh</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:11, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno y gall y fargen ddinesig ddarparu’r llam digidol mawr hwn ymlaen, ond mae’n werth cofio hefyd mai o Abertawe y llamodd Trudy Norris-Grey yn ei blaen—mae’n amlwg eich bod yn gwybod, Gweinidog, mai hi yw rheolwr gyfarwyddwr Microsoft ar gyfer sector cyhoeddus canol a dwyrain Ewrop, a chadeirydd Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg. Mae hi’n honni bod ‘cyfleoedd gwych’, i ddefnyddio ei geiriau hi, i fenywod gael mynediad at yrfaoedd mewn TG, ond nad ydynt yn gwybod amdanynt. Felly, tybed sut y gall Llywodraeth Cymru fod o gymorth i fusnesau Cymru—nid yw’n ymwneud â sgiliau yn gymaint â’r busnesau eu hunain—i hyrwyddo gyrfaoedd TG yn well i fenywod.