Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Mawrth 2017.
Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid y fargen ddinesig er mwyn cael y fargen wedi’i harwyddo a’i chymeradwyo, ac i sicrhau bod gennym brosiectau parod i’w dechrau yn y maes hwn. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gydag ESTnet, er enghraifft, i wneud yn siŵr fod y technolegau digidol creiddiol gennym yn ein busnesau i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwyf hefyd yn rhedeg grŵp data a digidol y Llywodraeth, a fydd yn cynorthwyo partneriaid awdurdodau lleol i wneud y gorau o’u technolegau digidol, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau yn y dyfodol agos ynglŷn â sut y byddwn yn cyflwyno datblygiadau sector cyhoeddus yn y maes hwnnw er mwyn cynorthwyo datblygiad economaidd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.