Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 29 Mawrth 2017.
Nid wyf wedi cyrraedd y pwynt lle y mae’n rhaid i mi benderfynu pwy sy’n gyfrifol am facio’n ôl. [Chwerthin.] Ond rydym wedi bod yn asesu’r potensial ar gyfer gosod lonydd dynodedig ar y prif gefnffyrdd ar gyfer cerbydau awtonomaidd. Credaf y byddai hynny’n rhoi cyfle i ni sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y sector pwysig hwn o’r economi fodurol. Mae buddsoddiad o’r fath yn gostus; nid yw’n rhad, ond byddai’n rhoi cyfle, er enghraifft, i ni brofi cerbydau awtonomaidd mewn ffordd ddiogel iawn, gan gynnwys eu gallu i facio’n ôl pan fyddant yn dod wyneb yn wyneb â cherbydau awtonomaidd eraill.