12. 10. Dadl Fer: Enseffalopathi Trawmatig Cronig a Chwaraeon — A All Cymru Arwain y Ffordd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:01 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 7:01, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n eithaf hyderus mai hon fydd y fyrraf o’r dadleuon byr, bydd y Gweinidog yn falch o glywed, ar ddiwedd diwrnod hir.

Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i sôn am enseffalopathi trawmatig cronig a’i gysylltiadau posibl â chwaraeon cyswllt fel pêl droed. Deuthum yn ymwybodol o’r mater hwn ar ôl clywed cyfweliad gyda gwraig y diweddar Frank Kopel, cyn chwaraewr Dundee United a gafodd ddiagnosis o ddementia yn 59 oed. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am fwy o ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ers marwolaeth Frankie ac mae wedi siarad yn huawdl iawn am ei phrofiadau yn gofalu amdano yn ddiweddarach mewn bywyd.

Arweiniodd sganiau ymennydd a ailarchwiliwyd gan Dr Willie Stewart, niwropatholegydd, at y casgliad fod cyflwr Frankie wedi ei achosi gan flynyddoedd o ergydion i’r pen dro ar ôl tro gan bêl-droedwyr eraill a hefyd o beniadau pêl-droed—gan gofio bod Frankie yn arfer chwarae mewn cyfnod pan oedd peli’n pwyso tua 450g. Trafodwyd y cysylltiad rhwng anafiadau i’r pen mewn chwaraeon a niwed i’r ymennydd yn ddiweddar mewn perthynas â rygbi a cheir dadleuon hirsefydlog a miniog mewn perthynas â phêl-droed Americanaidd.

Ond ni chafodd y cysylltiad rhwng enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed ei drafod a’i ystyried yn llawn tan yn ddiweddar iawn. Y mis diwethaf, cyhoeddwyd ymchwil arloesol gan wyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr wedi ymddeol yn ardal Abertawe. Rhwng 1980 a 2010, cafodd 14 o bêl-droedwyr wedi ymddeol a oedd wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth seiciatreg yr henoed yn Abertawe eu monitro hyd at eu marwolaeth. Datblygodd pob un o’r pêl-droedwyr wedi ymddeol nam gwybyddol cynyddol, a datgelodd archwiliad niwropatholegol annormaleddau parwydol yn y chwe chwaraewr lle y cynhaliwyd archwiliad post-mortem o’r ymennydd. Bu farw deuddeg o achosion o glefyd niwroddirywiol datblygedig a chafodd enseffalopathi trawmatig cronig ei gadarnhau’n batholegol mewn pedwar achos.

Nid yw’r astudiaeth yn cadarnhau’n uniongyrchol fod cysylltiad rhwng ergydion ailadroddus i’r pen ac enseffalopathi trawmatig cronig, ond mae’n dweud bod angen ymchwil pellach. Mae chwaraewr cyffredin yn penio’r bêl chwech i 12 gwaith mewn gêm bêl-droed ac o leiaf 2,000 o weithiau mewn gyrfa 20 mlynedd. Ond mae anafiadau i’r pen yn fwy tebygol o fod wedi’u hachosi gan gyswllt pen a chwaraewr na chyswllt pen a phêl. Mae’r anhawster i ganfod niwed yn codi o’r ffaith nad yw’r rhan fwyaf o ergydion yn achosi cyfergyd, sy’n golygu nad ydynt yn arwain at fod yn anymwybodol neu’n arddangos symptomau niwrolegol amlwg.

Yn fy marn i, mae’n llawer rhy gynnar i wneud honiadau pendant am bêl-droedwyr ac enseffalopathi trawmatig cronig, y tu hwnt i’r hyn a wyddom o’r ymchwil ddiweddaraf y chwaraeodd gwyddonwyr o Gymru ran flaenllaw ynddo. Yn wir, mae prif wyddonydd Cymdeithas Alzheimer wedi dweud nad yw’r ymchwil a wnaed yn Abertawe yn rhoi prawf fod peniadau pêl-droed yn achosi dementia, ond mae’n amlwg—a cheir cytundeb ar draws ymchwil ac ymhlith gwyddonwyr ar hyn—fod angen gwaith ymchwil pellach ac mae angen codi ymwybyddiaeth o effaith anafiadau ailadroddus i’r pen ar bêl-droediwr ar hyd eu gyrfa.

Fel cefnogwr pêl-droed fy hun, ni fyddwn eisiau rhuthro i gasgliadau o fath yn y byd a phenderfynu ei gwneud yn anos i bobl ifanc gymryd rhan lawn yn y gamp. Fel rhywun sy’n dwli ar y gêm, ni fyddwn am inni ruthro’n fyrbwyll at sefyllfa lle y caiff natur y gêm ei newid yn sylweddol. Ond diben cyflwyno’r ddadl fer hon heddiw a chodi’r mater penodol hwn yw gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddent yn ystyried gwneud dau beth. Yn gyntaf, yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen codi ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ac anafiadau pen yn gyffredinol mewn pêl-droed, a sut rydym yn trin anafiadau pen yn y gamp wrth iddynt ddigwydd. Mae rygbi wedi rhoi camau ar waith i ddiogelu chwaraewyr yn well pan fyddant yn cael anafiadau i’r pen yn ystod y gêm. Felly, tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno o leiaf i ystyried cynnull uwchgynhadledd o gyrff rheoli pêl-droed a chyrff cynrychioliadol y byd pêl-droed yng Nghymru i rannu gwybodaeth ac arferion gorau yn y gamp, a allai gynnwys arbenigwyr yn y maes yn ogystal ag arbenigwyr gwyddonol a meddygol, fel ein bod yn rhannu arferion gorau ac ar lawr gwlad yn arbennig, fod hyfforddwyr pêl-droed a rhieni ac eraill sy’n gysylltiedig yn gallu bod yn ymwybodol o hyn er mwyn edrych am arwyddion o gyswllt pen wrth ben ac i gymryd gofal a rhoi sylw arbennig wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chwaraewr barhau i chwarae.

Yn ail, tybed a fyddai’r Gweinidog yn ystyried gweithio gyda’r rhai sydd ynghlwm wrth hyn—gan fod Cymru wedi bod yn ganolog i’r gwaith ymchwil diweddaraf, fel y soniais, gyda gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r ymchwil yn Abertawe—i adeiladu ar enw da posibl Cymru yn fyd-eang ym maes ymchwil enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon. Felly, efallai y gallai Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd ryngwladol ar enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon yng Nghymru, gan ddefnyddio amlygrwydd Cymru yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA eleni fel llwyfan i ennyn diddordeb ac i wahodd FIFA, UEFA a chymdeithasau pêl-droed o bob cwr o’r byd i ddod at ei gilydd gyda’r ymchwilwyr gwyddonol a’r arbenigwyr sydd gennym yn y maes yn y wlad hon. Gallai fod yn gyfle euraid arall i gryfhau enw da Cymru fel canolfan fyd-eang i ragoriaeth mewn ymchwil yn ogystal â dysgu llawer mwy, wrth gwrs, am enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed, fel y gallwn atal yr achosion trist iawn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o anaf hirdymor i’r pen a dementia cynamserol. Diolch yn fawr.