<p>Mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:22, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ar y diwrnod mawr hwn yn y byd gwleidyddol, credaf y dylid nodi nad yw 22 y cant o feddygon teulu bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf yn hanu o’r DU. Mae’r etholaeth rwy’n byw ynddi ac yn ei chynrychioli yn dibynnu’n helaeth ar feddygon o dramor. Rwy’n sicr nad yw hon yn ffenomen newydd ac nid yw’n sefyllfa unigryw i ni yn lleol. Ceir pryderon difrifol bellach ynglŷn â sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar allu Cymru i ddenu meddygon o dramor yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae eich adran yn ei wneud i sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru o ganlyniad i adael yr UE?