Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae fferyllwyr mewn sefyllfa dda iawn i helpu meddygon teulu, ac felly, i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, yn arbennig o ran rheoli ac adolygu meddyginiaethau. Credaf y gallem wneud yn well yn hyn o beth gan fod llawer o dystiolaeth fod defnydd gwael o feddyginiaethau, neu ddefnydd amhriodol weithiau hefyd, yn llesteirio rhai o’r canlyniadau iechyd y gallem eu sicrhau fel arall.