Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch. O ystyried tystiolaeth fod y gyfradd hunanladdiad ymysg pobl gyda’r cyflwr niwrolegol enseffalomyelitis myalgig, neu ME, yn fwy na chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fwrw ymlaen â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Awst 2014 y grŵp gorchwyl a gorffen ar ME/syndrom blinder cronig a ffibromyalgia i fynd i’r afael â diffyg gwasanaethau gofal iechyd priodol ar gyfer pobl ag ME?