Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 29 Mawrth 2017.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ME neu’r syndrom blinder cronig cyn Wythnos Ymwybyddiaeth ME ym mis Mai ac i gefnogi gwaith Cymorth ME ym Morgannwg, sy’n cael ei redeg gan un o fy etholwyr. Yr hyn y mae’r ymgyrchwyr yn ei ddweud wrthyf yw y byddent yn hoffi gweld gwell ymwybyddiaeth o’r cyflwr ymhlith meddygon teulu, yn ogystal â diagnosis cyflymach. Maent hefyd yn dweud y byddent yn hoffi cyfleusterau arbenigol yma yng Nghymru, gan fod rhai yn gorfod teithio’n bell i gael cymorth i wella. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i helpu i hybu diagnosis cyflymach, ac a oes unrhyw gynlluniau i greu canolfan arbenigol yng Nghymru?