<p>Gwasanaethau Meddygon Teulu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:03, 29 Mawrth 2017

Ar gefn y cwestiwn yna, wrth gwrs, yn naturiol mae’n dal yn rhaid cael meddygon teulu i ddelio â’r problemau yna y gall dim ond meddyg delio â nhw. Ac yr wythnos yma rydym ni wedi clywed bod meddygfa Coelbren yn fy rhanbarth i yn mynd i gau, gan fod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi methu’n deg â ffeindio meddygon teulu i weithio yna, er bod yn trio’n ddyfal ers rhai misoedd. O gofio hynny, felly, beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i ffeindio ateb i’r broblem yma?