Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 29 Mawrth 2017.
Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi ein hymrwymiad i wreiddio byw’n iach ym mhob un o’n rhaglenni ac i gyhoeddi strategaeth ‘iach a gweithgar’. Bydd hyn yn adeiladu ar ein deddfwriaeth, ein rhaglenni, a’n gwaith presennol ar draws y Llywodraeth sy’n anelu at gynorthwyo pobl i wneud dewisiadau iachach.