<p>Costau Parcio Ceir mewn Ysbytai</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:08, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch am yr ateb. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglŷn â’r taliadau, yn enwedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a elwir yn Ysbyty Mynydd Bychan ar lafar. Yn ddiweddar, cafwyd enghraifft o nyrs y codwyd tâl arni er ei bod wedi gadael arwydd yn ffenestr y car yn dweud ei bod yn nyrs gardiaidd ar alwad frys. Felly, efallai fod y wardeniaid wedi bod yn orfrwdfrydig yn eu hagwedd. Deallaf fod y cytundeb yn dod i ben y flwyddyn nesaf. A allai’r Gweinidog roi unrhyw sicrwydd y bydd taliadau parcio yn dod i ben yn Ysbyty Mynydd Bychan pan ddaw’r cytundeb i ben?