Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, dywedodd llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Markku Markkula, y byddai Pwyllgor y Rhanbarthau yn rhoi darlun i brif negodwr yr UE, Mr Barnier, o’r sefyllfa sy’n datblygu ar lefel ranbarthol. Dywedodd Mr Markkula hefyd mewn dadl ym Mhwyllgor y Rhanbarthau yr wythnos diwethaf, ac rwy’n dyfynnu, rhaid i ni weithio i ddiogelu cysylltiadau hirsefydlog rhwng awdurdodau rhanbarthol a lleol yn yr UE a’r DU.
Mae’n ymddangos i mi fod hyn yn mynd i gyfeiriad cadarnhaol ac mae’n bwysig ein bod yn defnyddio ein haelodaeth o Bwyllgor y Rhanbarthau er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n negodi ar ran yr UE yn cael darlun llawn o’r sefyllfa yma. Tybed, yn ogystal â’r cynrychiolwyr, a fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â Mr Markkula a’i gydweithwyr o bosibl?